Cyfeillion Croesor
Sefydlwyd Cyfeillion Croesor yn 1998 fel mudiad cymdeithasol i wella diwylliant, economi ac amgylchfyd Cwm Croesor ac ardal Llanfrothen.
Yn 2000 agorwyd siop pethau ail law, Siop Mela ym Mhenrhyndeudraeth, er mwyn codi arian at achosion lleol ac i gefnogi’r mudiad.
Yn 2001 prynwyd adeiladau fferm Bryn Gelynnen er mwyn eu haddasu at ddefnydd y gymuned. Erbyn 2007 roedd Caffi Croesor a’r toiledau wedi eu hagor ac ymhellach ymlaen yn 2008 agorwyd yr Oriel. Erbyn hyn, mae Oriel Caffi Croesor yn cael eu ddefnyddio fel lle i bobl yr ardal gymdeithasu neu rhentu ar gyfer achlysuron preifat.
Mae yna lawer o ddigwyddiadau cymunedol yn digwydd yma gyda help gwirfoddolwyr grŵp Hwb Croesor, sydd hefyd yn cadw trefn ar yr ardd gymunedol ac yn cydlynu digwyddiadau codi pres.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi derbyn nifer o grantiau i gynnal digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol, sesiynau ysgol goedwig i blant, gwneud gwaith atgyweirio hanfodol ar yr adeiladau a cyflogi busnes lleol i gynnal astudiaeth dichonoldeb ar ddefnydd gorau ein hasedau.
Mae Cyfeillion Croesor yn falch o gyd-weithio gyda menterau eraill yr ardal fel Menter y Ring, Plas Brondanw, Y Dref Werdd, Siop Mela, Cwmni Bro Ffestiniog, Deudraeth Cyf a Cyngor Llanfrothen.
I gael y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr:
Cysylltwch â ni
Os hoffech chi wybod mwy am ddigwyddiadau cymunedol neu gyfleoedd gwirfoddoli, neu os hoffech chi gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cysylltwch â ni drwy hwbcroesor@gmail.com
Os oes gennych unrhyw ymholiadau i fwrdd cyfarwyddwyr Cyfeillion Croesor, cysylltwch â ni drwy cadeiryddcc@gmail.com